Rhyddfrydiaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)

Damcaniaeth ym maes cysylltiadau rhyngwladol yw rhyddfrydiaeth neu ryngwladoldeb rhyddfrydol sy'n pwysleisio pwysigrwydd syniadau a sy'n credu bod bodau dynol yn berffeithiadwy a bod angen democratiaeth i ddatblygu hynny.[1] Mae'r ddamcaniaeth ryddfrydoli yn tynnu ar athroniaethau gwleidyddol ac astudiaethau economaidd y 18g a'r 19g. Yr athronydd John Locke oedd arloeswr rhyddfrydiaeth glasurol, a chyfrannodd at syniadau'r cyfamod cymdeithasol, gweriniaetholdeb, ac hawliau naturiol. Amlinellir y gobaith am "heddwch parhaol" gan Immanuel Kant yn ei draethawd Zum ewigen Frieden (1795), sydd yn argymell cyfansoddiadau gweriniaethol a'r angen am gydsyniad y dinasyddion cyn i unrhyw wlad mynd i ryfel. Daw ysbrydoliaeth y rhyddfrydwyr mewn materion economaidd gan yr economegwyr gwleidyddol, yn bennaf Adam Smith a Richard Cobden. Yn ei gampwaith The Wealth of Nations (1776), disgrifia Smith y "llaw anweledig" sydd yn gyrru'r farchnad rydd, a dadleua nad yw bywyd rhyngwladol yn "sero-swm", hynny yw nid yw enillion un dyn, cwmni, neu wlad o reidrwydd yn achosi colled i ddyn, cwmni, neu wlad arall. Gwleidydd a dyn busnes oedd Cobden, a hyrwyddai masnach rydd a chysylltiadau gonest rhwng gwledydd y byd i hybu diddordebau cyffredin ac heddwch.

Nid yw pob damcaniaeth ryddfrydol ar gysylltiadau rhyngwladol yn gytûn, ond maent i gyd yn hyderu ym mhosibiliadau "Cynnydd". Mae rhyddfrydwyr yn rhoi sylw i sawl haen o gymdeithas. Pwysleisir gallu'r unigolyn i wella'i wladwriaeth, drwy reswm a moesoldeb. Yn ôl y ddamcaniaeth ryddfrydol, mae'r wladwriaeth yn bodoli er budd yr unigolyn, i sicrhau ei hawliau a'i ryddid. Nid yw'r wladwriaeth ryddfrydol yn nod ynddi'i hun, ond yn fodd o ennill heddwch a democratiaeth, yr un syniad o'r heddwch democrataidd a arddelai gan y delfrydwyr. Yn ogystal, mae'r drefn ryngwladol yn agwedd hollbwysig o heddychu'r byd, drwy gynnig sefydliadau rhynglywodraethol ac uwchgenedlaethol a'r gyfraith ryngwladol i ddatrys anghydfodau rhwng gwladwriaethau ac i osgoi rhyfel.

Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, bu cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng syniadau'r delfrydwyr a'r hyn a elwir yn rhyngwladoldeb rhyddfrydol. Bu meddylfryd Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn manylu ar y dadleuon rhyddfrydol drwy ei bolisi tramor a elwir yn Wilsoniaeth. Gwelsai Wilson yr hen ddiplomyddiaeth yn seiliedig ar Realpolitik awtocrataidd ac ymrysonau'r brenhiniaethau, a'r fath systemau oedd yn gyfrifol am achosi rhyfel. Dadleuai taw democratiaeth a chydsyniad y bobl oedd y ffordd ymlaen i sicrhau heddwch. Efe oedd prif arweinydd Cynghrair y Cenhedloedd, er i Senedd yr Unol Daleithiau wrthod i'r wlad honno ymuno â'r sefydliad. Nod Wilson oedd i'r Cynghrair magu trefn ddiplomyddol newydd o gyd-ddiogelwch, gan roi'r gorau i'r hen gynghreiriau milwrol a oedd yn sbarduno rasys arfau. Y brif broblem a wynebai'r Cynghrair oedd yr angen am aelodaeth gan bob un wladwriaeth ar draws y byd, er iddo wahardd ambell wlad gan gynnwys yr Almaen a'r Undeb Sofietaidd rhag ymuno. Hefyd bu'n dibynnu ar rym milwrol i rwystro ac i gosbi'r gwladwriaethau oedd yn aflonyddu'r drefn, ond methodd y Cynghrair i atal goresgyniad Abysinia gan yr Eidal yn 1935.

  1. Baylis, Owens & Smith, tud. 5.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search